Mae’r prosiect rhyngddisgyblaethol hwn yn defnyddio celfyddydau creadigol i archwilio hanes diwylliannol pobl Cymru a phobl Bryniau Casia yng ngogledd-ddwyrain India. Dyma hanes sy’n rhychwantu 170 o flynyddoedd, o ddyfodiad y cenhadon ym Mryniau Casia yn y 1840au hyd at ymadawiad holl genhadon tramor India ym 1967, a hefyd y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw. Esgorodd y berthynas ddiwylliannol a hanesyddol hon ar gasgliad cymhleth ac amrywiol o ddeunydd rhyngddiwylliannol. Yn y prosiect defnyddir celfyddydau creadigol, sef perfformiad, ffilm, barddoniaeth, llên gwerin a cherddoriaeth yn bennaf, fel modd o adeiladu 'deialog ddiwylliannol' rhwng ysgolheigion creadigol o Gymru ac India, deialog sy'n archwilio ac yn ymateb i’n perthynas hanesyddol.
Arweinir y prosiect gan yr Athro Lisa Lewis o Brifysgol De Cymru (PDC), mewn cydweithrediad gyda'r Athro Aparna Sharma o Brifysgol California Los Angyles (UCLA). Mae'r Athro Desmond Kharmawphlang o North Eastern Hill University (NEHU), Meghalaya yn ymgynghorydd.