Welsh and Khasi Cultural Dialogues

  • Home
  • Adref
  • About Us
  • Amdanom Ni
  • Creative Practice
    • Film & Photography
    • Music
    • Theatre and Performance
    • Exhibitions
  • Ymarfer Creadigol
    • Ffilm a Ffotograffiaeth
    • Cerddoriaeth
    • Theatr a Pherfformiad
    • Arddangosfeydd
  • Research
  • Ymchwil
  • Gallery - Oriel
  • Talks & Papers
  • Sgyrsiau a Phapurau
  • Impact and Engagement
  • Traweffaith ac Ymgysylltiad
  • Writings & Publications
  • Ysgrifau a Chyhoeddiadau
  • Contact
  • Cysylltu
  • Home
  • Adref
  • About Us
  • Amdanom Ni
  • Creative Practice
    • Film & Photography
    • Music
    • Theatre and Performance
    • Exhibitions
  • Ymarfer Creadigol
    • Ffilm a Ffotograffiaeth
    • Cerddoriaeth
    • Theatr a Pherfformiad
    • Arddangosfeydd
  • Research
  • Ymchwil
  • Gallery - Oriel
  • Talks & Papers
  • Sgyrsiau a Phapurau
  • Impact and Engagement
  • Traweffaith ac Ymgysylltiad
  • Writings & Publications
  • Ysgrifau a Chyhoeddiadau
  • Contact
  • Cysylltu

Amdanom Ni

Rydym yn dîm o academyddion ag artistiaid o Gymru, India ac Unol Daleithiau America ydym ni sydd yn defnyddio ymarfer creadigol i sefydlu deialogau diwylliannol er mwyn archwilio a thrafod y berthynas hanesyddol a chyfredol rhwng Cymru a Bryniau Khasia a Jaiñtia. Mae cynnyrch creadigol y prosiect yn cynnwys Ffilm, Cerddoriaeth a Pherfformiadau theatr yn ogystal â phapurau cynhadledd a chyhoeddiadau ysgolheigaidd mewn amryw o gyfrolau.​

 Y Tîm Ymchwil

Picture
Yr Athro Lisa Lewis
Prif Ymchwilydd


Mae Lisa Lewis yn Athro mewn Theatr a Pherfformiad yng Nghyfadran y Diwydiannau Creadigol, a Chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach, Prifysgol De Cymru.  Mae hi'n ymarferydd theatr, ac mae ei hymchwil yn rhannol ymarferol ac yn canolbwyntio ar berfformiad o ddiwylliant Cymraeg.
​
Picture
Yr Athro Desmond Kharmawphlang
Ymgynghorydd Ymchwil

Mae Desmond Kharmawphlang yn beneath ar Adran Astudiaethau Diwylliannol a Chreadigol ym Mhrifysgol North Eastern Hill University (NEHU), Meghalaya, India.  Mae'n fardd a llên-gwerinwr cydnabyddedig.
Picture
Picture
Gareth Bonello
Ymchwilydd PhD & Cerddor
Teitl doethuriaeth Gareth yw 'Deialogau Diwylliannol Cymreig a khasi: Hunaniaeth mewn alawon.'  Cafodd ei ddoethuriaeth ei gefnogi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Prifysgol De Cymru.  Mae Gareth yn defnyddio Ymarfer fel Ymchwil er mwyn cyd-weithredu'n gerddorol gydag artistiaid Khasi.

Picture
Yr Athro Aparna Sharma
Cyd-ymchwilydd


Mae Aparna Sharma yn athro cysylltiol mewn ffilm dogfen, theori ffilm, ac astudiaethau ôl-drefedigaethol yn adran Celfyddydau'r Byd, Diwylliant a Dawns ym Mhrifysgl California, Los Angeles (UCLA).  Mae hi yn wneuthurwr ffilm dogfen ac mae ei hymchwil yn ymarferol, gan ffocysu ar gymunedau afleoledig o ddychymyg cenedlaethol India.  
Picture
Dr Helen Davies
Uwch Gynorthwydd Ymchwil (2015-2019)


Helen Davies yw prif gynorthwydd ymchwil y prosiect ym Mhrifysgol De Cymru (USW), Caerdydd.  Mae ganddi gefndir mewn sosio-ieithyddiaeth, ac mae ei hymchwil yn canoli ar iaith a hunaniaeth ddiwylliannol.
Picture
Lapdiang Syiem
Perfformiwr

Cafodd Lapdiang ei hyfforddi mewn theatr gorfforol, ac mae ei gwaith yn ail-ymweld â llên gwerin Khasi, gan addasu'r chweldau ar gyfer cynulleidfaoedd cyfoes.
Picture
Rhys ap Trefor
Perfformiwr

Actor Cymraeg sydd yn gweithio yn y theatr, teledu, ffilm a radio yw Rhys.  Mae Rhys yn brofiadol yn, ac yn ymroddedig i, berfformio ac ymchwilio ymarferion diwylliant Cymreig. 
Picture
Benedict Hynñiewta
Cerddor

Mae Benedict Hynñiewta yn artist gweledol a cherddor. Mae'n dysgu celf a cherddoriaeth yn Adran Adran Astudiaethau Diwylliannol a Chreadigol ym Mhrifysgol North Eastern Hill University (NEHU).  Mae hefyd yn aelod o gyngor cyffredinol Academi Lalit Kala, Academi Cenedlaethol Celfyddyd llywodraeth India. 

Y Bwrdd Ymgynghorol

Jane Aaron, Athro Emeritws Saesneg, Prifysgol De Cymru. Cyn ei hymddeoliad yn 2011 roedd hi'n bennaeth y Ganolfan Astudiaethau Rhywedd. Yn arbenigwraig ar ysgrifennu Cymraeg yn yr iaith Saesneg, mae hi wedi ysgrifennu'n helaeth am lenyddiaeth menywod Cymreig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yng nghyd-destun Imperialaeth Brydeinig. 

Uttam Bathari, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil yng Nghyngor Ymchwil Hanesyddol Indiaidd, Canolfan Ranbarthol Gogledd Ddwyrain, Prifysgol Guwahati. Ar hyn o bryd, mae'n brif ymchwilydd ar achos Gogledd Ddwyrain India mewn prosiect Ffiniau Gwladwriaeth a Globaleiddiad' Y Cyngor Ymchwil Norwyaidd. Mae wedi cyhoeddi'n eang ar hanes y Gogledd Ddwyrain. 

Aled Gruffydd Jones, Cyn-Brif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'n hanesydd o fri sydd wedi ysgrifennu'n helaeth ar y berthynas rhwng Cymru, yr Ymerodraeth Brydeinig ac is-gyfandir India yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Yr oedd gynt yn Athro Hanes Cymru Syr John Williams a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. 

Tiplut Nongbri, Athro Canolfan Astudio Systemau Cymdeithasol, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Jawaharlal Nehru, Delhi. Mae ei meysydd arbenigol yn cynnwys: cymdeithaseg teulu a pherthnasau, ethnigrwydd, cymunedau llwythol a grwpiau ymylol, astudiaethau rhywedd a chymdeithaseg amgylcheddol. Mae'n awdur ar lyfrau ar rhywedd a'r strwythur teuluol Casi, menwod Casi a systemau mamlinachol, a gwrywdod a Christnogaeth yng Ngogledd Ddwyrain India. 
​
Mike Wilson, yn gyn-Athro Drama a Deon, Ysgol Saesneg, Drama a Chyhoeddi, Prifysgol Loughborough. Mae'n arbenigwr mewn adrodd storïau a thechnoleg ddigidol ac wedi cyhoeddi'n helaeth arno. Yr oedd yn gyn-Athro o Drama a Deon Ysgol y Cyfryngau a Pherfformiad, Coleg y Brifysgol Falmouth. 

Proudly powered by Weebly