|
Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan ganolog o’r cyswllt diwylliannol rhwng Cymru a Bryniau Casia a Jaiñtia ers yr 1840au. Daeth y cenhadon Cymreig ag emyn-donau Cymreig, caneuon gwerin, rhigymau a hwiangerddi gyda nhw i ogledd-ddwyrain India, a daethant â tonic sol-ffa fel modd o ddysgu cerddoriaeth. Ar yr un pryd dysgasant ganeuon gwerin o’r ardal, a dychwelodd rhai o’r alawon hyn i Gymru ar ffurf emynau. Mae’r cerddor Gareth Bonello yn ymchwilio’r gyfnewidfa hanesyddol mewn cerddoriaeth ac yn datblygu cywaith cerddorol gydag artistiaid Casi. Un o brif allbynnau doethuriaeth Gareth a’i gywaith gyda cherddorion Casi yw’r albym ‘Sai-thain ki sur gan y Khasi-Cymru Collective, a ryddhawyd yn 2021 ar Naxos World. Dyma albym gwerin y mis yn y Guardian ym Mehefin 2021. |
|
|
|
|
Gareth Bonello – perfformiad byw o ‘Pererin Wyf’ gyda Duitara ar Heno, S4C, 30 Hydref 2018
|
|
Gareth Bonello – perfformiad byw o ‘Bryniau Casia’ a chyfweliad ar Dechrau Canu, Dechrau Canmol, S4C, 25 Tachwedd 2018
|
Wanphrang Diengdoh a Gareth Bonello – fideo ar gyfer y gân draddodiadol Gymreig ‘Cariad Cyntaf’, perfformiwyd gan Gareth Bonello, crewyd gan Wanphrang Diengdoh, 19 Chwefror 2018
|
Mae’r Gydweithfa Khasi/Cymru yn grŵp o gerddorion sydd wedi bod yn archwilio’r gyfnewidfa ddiwylliannol rhwng Cymru a Bryniau Casia-Jaiñtia ac sydd wedi bod yn creu gweithiau cerddorol newydd gyda’i gilydd o safbwynt gwbl gyfoes. Cydweithiodd Gareth Bonello, arweinydd y gwaith hwn, gyda Desmond Kharmawphlang, Esther Syiem a Lapdiang Syiem ar gyfansoddi geiriau, a gyda’r cerddorion Benedict Hynñiewta, Rani Marin, Risingbor Kurkalang, Mebanlamphang Lyngdoh, Desmond Sunn ac Apkyrmenskhem Tangsong.
|
Mae Dr Mebanlamphang Lyngdoh yn gerddor ac yn ddarlithydd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cristnogol Martin Luther, Shillong. Cwblhaodd Meban ei ddoethuriaeth ar y duitara, yr offeryn Casi traddodiadol.
Mae Apkyrmenskhem Tangsong yn gerddor sy’n byw yn Shillong. Mae’n arbenigo yn y Duitara a’r ffliwt bambŵ ac yn cydweithio’n aml gyda’r berfformwraig Lapdiang Syiem.
|
Mae Desmond Sunn yn gyfansoddwr caneuon a cherddor Casi poblogaidd ac yn DJ ar orsaf RED FM Shillong.
Crefftwr, cerddor a ffarmwr o Ddwyrain Bryniau Casia yw Risingbor Kurkalang. Mae’n chwarae’r Saitar, y Duitara ac mae’n grefftwr sy’n arbenigo mewn creu offerynau Casi.
|
Crefftwr, cerddor a ffarmwr o ardal Ri Bhoi, Meghalaya yw Rani Marin. Mae e’n wneuthurwr offerynnau Casi traddodiadol, yn cynnwys drymiau mawr y Ka Bom, ffliwtiau bambŵ ac offerynau llinynnol fel y Duitara a’r Maryngod.
Mae Dr Gareth Bonello yn gyfansoddwr ac yn offerynnydd sy’n gweithio o dan yr enw The Gentle Good. Caiff ei ddylanwadu gan gerddoriaeth a llên gwerin traddodiadol Cymreig, yn ogystal â dylanwadau o bedwar ban byd.
|