Cyd-destun Ymchwil |
Mae’r berthynas draws-ddiwylliannol rhwng y Casi a’r Cymry wedi’i gwreiddio yn y cyswllt cenhadol a sefydlwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan Genhadaeth y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig ym Mryniau Casia a Jaiñtia, ynghyd â’r prosesau diwylliannol a oedd yn ganlyniad i’r cysylltiad hwnnw. Hyd nes i’r genhadaeth ddod i ben yn 1969 bu ei chynrychiolwyr yn gyfrifol am weithiau diwylliannol amrywiol yn seiliedig ar gyfnewid gyda’r gymuned leol, gan gynhyrchu corff cymhleth o lenyddiaeth a pherfformiad. Mae’r deunyddiau hyn yn cynnwys llythyrau, emynau a chaneuon gwerin, ysgrifennu crefyddol, dyddiaduron, cylchgronau a chyfnodolion, teithlyfrau a ffilmiau, ffotograffiau, ac ysgrifennu creadigol gan gynnwys dramâu, nofelau a barddoniaeth. Mae’r deunydd hyn wedi ei wasgaru rhwng archifau swyddogol ac answyddogol yn India a Chymru. Dyma’r cyd-destun ar gyfer strwythuro cyfres o ‘ddeialogau diwylliannol’ drwy gyfrwng ymarfer creadigol; trafodion sy’n cynnig gofod ar gyfer archwilio ac ymateb i gyfres o amcanion ymchwil.
|
Cwestiynau Ymchwil |
Ym mha fodd y mae hanesion trawsddiwylliannol yn strwythuro hunaniaethau yn y byd modern? Mae’r prosiect yn archwilio’r cyswllt Cymreig-Casi mewn cyd-destun ôldrefedigaethol, yn cyndabod deinameg diwylliannol cynhenid y gyfnewidfa hon ac yn ceisio datgelu’r modd y mae cyswllt trawsddiwylliannol yn cymlethu’r ddealltwriaeth o hanes trefedigaethol. Cyfryngwyd mynegiant y berthynas trawsddiwylliannol Gymreig a Chasi gan agweddau penodol fel credoau ac ymarfer crefyddol, profiadau benywaidd a’u mynegiant, traddodiadau llenyddol a gweledol, a hanesion llafar. Mae’r ymchwil yn dilyn y cwestiynau sy’n codi mewn perthynas â’r cyfryngau hyn, e.e. drwy archwilio’r modd y cafodd y cyfnewid diwylliannol ei gyfeirio gan greodau ac ymarfer crefyddol neu ei fynegi mewn gwaith diwylliannol gan fenywod. Mae’r prosiect hefyd yn archwilio materion ehangach, e.e. sut yr effeithiwyd ar natur y gyfnewidfa ddiwylliannol gan sefyllfa ymylol y Cymry a’r Casi (mewn perthynas â chategorïau ehangach fel yr Ymerodraeth Brydeinig a chenedl India). A hefyd, sut yr effeithiodd y gyfnewidfa ar hunaniaethau ôldrefedigaethol.
|
Dulliau Ymchwil |
Cyfnod Un (2015-2017): cyfnod o ymchwil archifol mewn sefydliadau yn India a Chymru, a gwaith maes ethnograffaidd ymysg pobloedd a oedd yn gysylltiedig a’r Genhadaeth ym Mryniau Casia-Jaintia. Cyfnod Dau (2017-2019): cyfnod o ymchwil ymarferol gan gynnwys gweithdai gydag artistiaid yng Nghymru ac India, yn dilyn themâu allweddol. O’r gweithdai hyn crewyd gwaith perfformio a ffilm sy’n archwilio sut mae’r cyswllt Casi-Cymreig yn siapio hunaniaethau diwylliannol cyfoes yng Nghymru a Gogledd-ddwyrain India.
|
Deilliannau |
Yn ogystal a chyfres o weithiau perfformio, cerddoriaeth a ffilm, bydd deilliannau’n cynnwys papurau cynhadledd a chyhoeddiadau ysgolheigaidd mewn ystod o gyfnodolion, yn ogystal ag arddangosfa, yn cynrychioli natur rhyngddisgyblaethol y prosiect.
|