Lisa Lewis
Tîm Ymchwil Mae Lisa yn Athro mewn Theatr a Pherfformiad yng Nghyfadran y Diwydiannau Creadigol, ac yn Gyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach, Prifysgol De Cymru. Mae hi’n ymarferydd theatr, ac mae ei hymchwil wedi ei seilio ar ymarfer ac yn canolbwyntio ar amryfal berfformiadau diwylliannol Cymreig. Mae ei llyfr diweddaraf, Performing Wales (2018, UWP), yn archwilio yr amgueddfa, treftadaeth, yr eisteddfod, a theatr, fel ffyrdd o gynnal perthnasau ffurfiannol rhwng pobl, cof a lle mewn diwylliant Cymreig. Mae Lisa wedi gweithio gyda nifer o amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth ar ddehongli a pherfformio hanes a diwylliant Cymreig. Yn ogystal ag arwain y prosiect yn gyffredinol mae Lisa yn gyfrifol am gyfarwyddo agweddau ymchwil perfformio y prosiect. Desmond Kharmawphlang
Ymgynghorydd Ymchwil Mae Desmond yn Athro Astudiaethau llenyddol a Diwylliannol ac yn Bennaeth yr Adran Astudiaethau Diwylliannol a Chreadigol ym Mhrifysgol North-Eastern Hill (NEHU), Shillong, Meghalaya, yng ngogledd-ddwyrain India. Mae’n fardd ac yn awdur Casi adnabyddus, ac yn arbenigydd mewn astudiaethau gwerin Casi ac ysgrifennu creadigol. Mae Desmond wedi cyhoeddi’n helaeth ar lên gwerin, bywyd gwerin, y traddodiad llafar a diwylliant Bryniau Casia. Gareth Bonello
Cerddor Mae’r Dr Gareth Bonello yn gerddor ac yn ganwr arobryn sy’n adnabyddus am ei recordiadau o dan yr enw The Gentle Good. Cwblhaodd Gareth ddoethuriaeth dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol De Cymru, yn dwyn y teitl ‘Deialogau Diwylliannol Cymreig a Khasi: Ymchwil drwy Ymarfer Creadigol’, sy’n archwilio treftadaeth gerddorol y gyfnewidfa Gasi-Gymreig. Fel rhan o’i ymchwil dysgodd chwarae’r offeryn Casi traddodiadol, y duitara. Bydd y cywaith cerddorol rhwng artistiaid Cymreig a Chasi yn cael ei ryddhau fel albym o’r enw ‘Sai-thaiñ ki Sur’ (plethu lleisiau) ar Naxos World. |
Aparna Sharma
Cyd-Ymchwilydd Mae Aparna yn Athro Cysylltiol mewn ffilm ddogfen, theori ffilm, ac ôl-drefedigaethedd yn adran Celfyddydau a Diwylliannau’r Byd/Dawns, Prifysgol Califfornia Los Angeles. Mae hi’n wneuthurwraig ffilmiau dogfen ac mae ei hymchwil wedi’i seilio ar ymarfer, yn defnyddio ac yn archwilio ffilmiau dogfen sy’n trafod cynrychiolaeth ddiwylliannol, ac yn canolbwyntio ar gymunedau sydd wedi eu dadleoli oddi wrth ddychymyg cenedlaethol India. Ers 2009, bu’n gweithio yng ngogledd-ddwyrain India – ac mae bellach yn gweithio ar ffilm ddogfen sy’n trafod y modd y cynrychiolir y gogledd-ddwyrain mewn ffotograffiaeth, gan gynnwys yr archif genhadol. Helen Davies
Uwch-gynorthwyydd Ymchwil Mae’r Dr Helen Davies yn arbenigydd mewn sosioieithyddiaeth a’r cyfryngau ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ieithoedd lleiafrifol. Yn y prosiect hwn mae ymchwil Helen yn archwilio iaith, y broses gyfieithu rhwng ieithoedd lleiafrifol (Casi a Chymraeg), a’r modd y mae iaith yn cyfryngu hunaniaeth ddiwylliannol yn y gyfnewidfa ddiwylliannol rhwng y Cymry a’r Casi. Mae hi hefyd yn arwain y thema ymchwil ar rhywedd yn y gyfnewidfa genhadol. Lapdiang A. Syiem
Perfformwraig Mae Lapdiang yn artist theatr annibynnol sy’n byw yn Meghalaya, India. Mae ei gwaith perfformio yn addasu ac yn ail-ddehongli naratifau llên gwerin Casi mewn cyd-destunau cyfoes. Bu’n ysgrifennu ac yn dyfeisio perfformiadau o’r fath ers 2016. Graddiodd o’r Ysgol Ddrama Genedlaethol, Delhi Newydd, gan arbennigo mewn actio. Yna, dilynodd radd arbenigol mewn theatr gorfforol yn Ysgol Commedia Copenhagen, Denmarc. Hyfforddwyd Lapdiang mewn technegau perfformio clasurol, gwerin a chyfoes, gan gynnwys Kuddiyattam a chelfyddydau’r syrcas yn Kerala. Mae hi wedi perfformio’n helaeth drwy India, a thramor gan gynnwys Pacistan, Tsieina, Denmarc, Sweden, Estonia, y Swisdir a Chymru. |
Rhys ap Trefor
Perfformiwr Mae Rhys yn actor adnabyddus o Gymru sy’n perfformio yn y theatr, mewn ffilm, ar deledu ac ar y radio. Astudiodd Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n actor blaenllaw mewn nifer o gyfresi teledu Cymraeg gan gynnwys Gwaith Cartref, Byw Celwydd, a Pili Pala. Mae Rhys hefyd yn gyfarwyddwr ac yn ysgrifennwr sy’n gweithio ar draws amrywiol gyfryngau. |
Benedict Hynñiewta
Cerddor Mae Benedict yn artist gweledol ac yn gerddor o Fryniau Casia. Mae’n ddarlithydd yn y celfyddydau a cherddoriaeth yn yr Adran Astudiaethau Diwylliannol a Chreadigol, NEHU, Shillong, ac yn aelod o Gyngor Cyffredinol Lalit Kala Akademi, Academi Gelf Genedlaethol Llywodraeth India. Mae Benedict yn ffliwtydd profiadol ac arbenigydd ar y ffliwt Gasi; mae’n archwilio technegau ac arddulliau rhyngwladol yn ogystal â thonnau y traddodiad gwerin Casi. |
Bwrdd Ymgynghorol
Jane Aaron, Athro Emerita mewn Saesneg, Prifysgol De Cymru. Arbenigydd ar lenyddiaeth Gymreig cyfrwng Saesneg, mae hi wedi ysgrifennu am ysgrifennu gan fenywod yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng nghyd-destun Imperialaeth Brydeinig. Cyn ei hymddeoliad yn 2011 roedd hi’n bennaeth y Ganolfan Astudiaethau Rhywedd, Prifysgol De Cymru.
Uttam Bathari, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil, Cyngor Ymchwil Hanesyddol India, Canolfan y Gogledd-Ddwyrain, Prifysgol Guwahati. Prif ymchwilydd ar achos Gogledd Ddwyrain India mewn prosiect o’r enw 'Imagined Sovereignities: Boundaries of Statehood and Globalisation' ar gyfer Sefydliad Ymchwil Heddwch, Oslo, wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil Norwy. Cyhoeddodd yn helaeth ar hanes y Gogledd Ddwyrain.
Aled Gruffydd Jones, hanesydd. Cyn Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae e wedi ysgrifennu’n helaeth ar y berthynas rhwng Cymru, yr Ymerodraeth Brydeinig ac is-gyfandir India yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugenifed ganrif. Bu’n Athro Hanes Sir John Williams ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Tiplut Nongbri, Athro, Y Ganolfan Astudio Systemau Cymdeithasol, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Jawaharlal Nehru, Delhi. Meysydd arbenigol: cymdeithaseg deuluol, Ethnigrwydd, Llwythau a Grwpiau Ymylol, Astudiaethau Rhywedd a Chymdeithaseg Amgylcheddol. Mae hi wedi ysgrifennu llyfrau ar rhywedd a’r strwythur teuluol mewn cymdeithas Gasi, menywod Casi a mamlinachedd, a gwrywdod a Christnogaeth yng Ngogledd Ddwyrain India.
Mike Wilson, Athro Drama, Ysgol Saesneg, Drama a Chyhoeddi, Prifysgol Loughborough. Arbenigydd mewn chwedleua a thechnoleg ddigidol.